Dydd Sul, 13 Awst
Bae Colwyn v Caernarfon | Dydd Sul – 17:15 (S4C)
Ar ôl blynyddoedd yn cystadlu ym mhyramid pêl-droed Lloegr, a thri tymor yng Nghynghrair y Gogledd, mae Bae Colwyn yn barod am eu gêm gyntaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru.
Aeth y Gwylanod ar rediad o 25 buddugoliaeth yn olynol yn y Cymru North JD y tymor diwethaf, ond er hynny fe gafon nhw eu gwthio hyd at y gêm olaf gan Treffynnon, oedd yn dynn ar eu sodlau.
Mae’r rheolwr Steve Evans yn gyfarwydd iawn â’r uwch gynghrair ar ôl ennill y bencampwriaeth ar saith achlysur gyda’r Seintiau Newydd, cyn treulio cyfnod yn is-reolwr yn Neuadd y Parc.
Chwaraeodd Evans i Gaernarfon ar ddechrau tymor 2021/22 cyn cael ei benodi yn reolwr ar Fae Colwyn yn Ionawr 2022.
Bydd Caernarfon yn awyddus i ddychwelyd i’r Chwech Uchaf ar ôl methu a chyrraedd y nod y tymor diwethaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018.
Gorffennodd y Cofis ond bedwar pwynt uwchben safleoedd y cwymp, ond mae’r rheolwr Richard Davies wedi arwyddo Adam Davies a Marc Williams yn y gobaith o gryfhau ei linell ymosodol.
Bydd ychwanegiad Bae Colwyn yn hwb mawr i’r gynghrair gan i’r clwb ddenu torf gyfartalog o 720 i’w gemau cartref y tymor diwethaf, swm dipyn uwch na’r 478 cyfartalog oedd yn mynd i wylio Caernarfon.
Ond roedd yna 812 ar yr Oval nos Wener diwethaf i weld Caernarfon yn colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Porthmadog, gyda 512 yn gwylio Bae Colwyn yn rhoi crasfa o 5-0 i Airbus UK.
Hon fydd y gêm gynghrair gyntaf rhwng Bae Colwyn a Chaernarfon ers dros 30 o flynyddoedd pan oedd y ddau dîm yn aelodau o ‘Northern Premier League Division One’ yn 1991/92, ac mae’n gaddo i fod yn dipyn o achlysur wrth i ni groesawu’r Bae i brif gynghrair pêl-droed Cymru.
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30.
