Cyfweliad gyda Craig Bellamy ar ôl cyhoeddi ei garfan gyntaf fel rheolwr Cymru.
Full interview with Craig Bellamy after his first squad announcement as Wales manager as he discusses the future under his guidance, the Wales captaincy and the inclusion of Leeds goalkeeper Karl Darlow.
Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn erbyn Twrci a Montenegro.
Dyma’r tro cyntaf i Bellamy fod wrth y llyw ar gyfer gemau Cymru, a bydd 24 chwaraewr yn y garfan i gyd.
Am y tro cyntaf mae’r golwr o Leeds Karl Darlow wedi ei gynnwys yn y garfan.
Chwaraewr di-gap arall sydd wedi ei gynnwys yn y garfan yw Owen Beck, amddiffynnwr Lerpwl sydd ar fenthyg i Blackburn Rovers.
Mae Ollie Cooper, Mark Harris a Sorba Thomas hefyd wedi cael eu galw yn ôl i’r garfan.
Mae David Brooks, Wes Burns a Nathan Broadhead yn methu allan oherwydd anafiadau.
Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 6 Medi, cyn teithio i Nikšić i herio Montenegro ar 9 Medi.
Mae’r gêm ym Montenegro wedi ei symud i stadiwm arall oherwydd cyflwr y cae.
Roedd i fod i gael ei chynnal ym mhrifddinas Montenegro yn Stadiwm Cenedlaethol Podgorica.
Roedd Twrci yn rhan o grŵp rhagbrofol Cymru ar gyfer Euro 2024. Colli yn Nhwrci a gêm gyfartal yng Nghaerdydd oedd hanes y gemau hynny.
Mae Cymru wedi herio Montenegro deirgwaith yn unig. Colli mewn gêm gyfeillgar yn 2009 oedd y tro cyntaf.
Colli ac ennill wnaeth Cymru yn erbyn Montenegro yng ngemau rhagbrofol Euro 2012.
Dyma garfan llawn Cymru:
Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Sheffield United), Karl Darlow (Leeds United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Owen Beck (Blackburn Rovers – ar fenthyg o Lerpwl), Joe Rodon (Leeds United), Chris Mepham (Bournemouth), Ben Cabango (Abertawe), Neco Williams (Nottingham Forest), Connor Roberts (Burnley), Jordan James (Stade Rennais), Ethan Ampadu (Leeds United), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Aaron Ramsey (Caerdydd), Ollie Cooper (Abertawe), Sorba Thomas (Nantes – ar fenthyg o Huddersfield Town), Kieffer Moore (Sheffield United), Lewis Koumas (Stoke City – ar fenthyg o Lerpwl), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Harry Wilson (Fulham), Daniel James (Leeds United), Mark Harris (Oxford United), Liam Cullen (Abertawe), Rabbi Matondo (Rangers).
Bydd Cymru yn herio Twrci a Montenegro ar 6 a 9 Medi – y ddwy gêm yn fyw ar S4C.
Tanysgrifiwch | Subscribe: bit.ly/3rnDOUT
Dilynwch ni | Follow us ⬇️
Facebook: facebook.com/sgorio
Twitter: twitter.com/sgorio
Instagram: instagram.com/sgorio

3 Comments
Duggie Desmond please
Mae Bellamy yn siarad gydag awdurdod.
Top player … I loved watchin him in his time at MCFC, good luck in this roll 👍