Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Euro 2024 ym mis Mehefin lle bydd tîm Rob Page yn wynebu Armenia a Thwrci.

Mae David Brooks wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf ers 2021 ar gyfer gemau rhagbrofol yr Euros.

Derbyniodd Brooks, sydd yn chwarae i glwb AFC Bournemouth, ddiagnosis o Hodgkin Lymphoma Cam II ym mis Hydref 2021.

Cyhoeddodd ym mis Mai y llynedd ei fod yn rhydd o ganser wedi iddo dderbyn triniaeth.

Fe fydd yn rhan o’r garfan a fydd yn chwarae yn erbyn Armenia a Thwrci ar 16 a 19 Mehefin.

Mae Brennan Johnson a Ben Davies yn ôl yn y garfan ar ôl colli eu cyfle ym mis Mawrth oherwydd anafiadau.

Bydd amddiffynnwr Bristol City Joe Low yn ymuno gyda’r garfan am y tro gyntaf. Mae wedi bod yn chwarae i Walsall ar fenthyg yn Adran Dau ers mis Ionawr.

Er i Neco Williams ddioddef anaf tra’n chwarae i’w glwb Nottingham Forest ar ddiwedd y tymor, mae’n holliach bellach ac wedi ei gynnwys yn y garfan.

Luke Harris, Liam Cullen a Morgan Fox yw’r tri chwaraewr di-gap sydd yn hawlio eu lle am y tro cyntaf.

Dechreuodd Cymru eu hymgyrch rhagbrofol yn gryf ym mis Mawrth wedi i Nathan Broadhead sgorio yn ei gêm gyntaf dros ei wlad gan sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Croatia yn Split, a gôl Kieffer Moore yn sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Latfia yng Nghaerdydd.

Mae Cymru yn yn yr ail safle yng nghrŵp D, gyda Thwrci ac Armenia yn y trydydd a’r pedwerydd safle.

Dyma’r garfan yn llawn:

Wayne Hennessey (Nottingham Forest), Danny Ward (Leicester City), Adam Davies (Sheffield United), Joe Rodon (Rennes- ar fenthyg o Tottenham Hotspur), Ben Cabango (Abertawe), Chris Mepham (Bournemouth), Joe Low (Bristol City), Connor Roberts (Burnley), Morgan Fox (Dim clwb), Neco Williams (Nottingham Forest), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Ethan Ampadu (Spezia- ar fenthyg o Chelsea), Joe Morrell (Portsmouth), Jordan James (Birmingham), Dan James (Fulham- ar fenthyg o Leeds United), Nathan Broadhead (Ipswich Town), Aaron Ramsey (OGC Nice), Harry Wilson (Fulham), Ollie Cooper (Abertawe), Luke Harris (Fulham), Brennan Johnson (Nottingham Forest), David Brooks (Bournemouth), Liam Cullen (Abertawe), Kieffer Moore (Bournemouth), Tom Bradshaw (Milwall).

Tanysgrifiwch | Subscribe: bit.ly/3rnDOUT

Dilynwch ni | Follow us ⬇️

Facebook: facebook.com/sgorio
Twitter: twitter.com/sgorio
Instagram: instagram.com/sgorio

Leave A Reply